'Rhaid gwneud mwy i gefnogi canol tref Castell-nedd' medd Adam Price

Tra ar ymweliad â chanol tref Castell-nedd gydag Ymgeisydd Etholiad Plaid Cymru dros Gastell-nedd, Sioned Williams, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, y byddai ei blaid yn rhoi adfywio canol tref wrth galon ei weledigaeth economaidd  ar gyfer Castell-nedd ac ar gyfer Cymru.

Wrth siarad â busnesau yng nghanol tref Castell-nedd ac ym marchnad dan do hanesyddol Castell-nedd yn ystod yr ymweliad, bythefnos cyn etholiad y Senedd ar 6 Mai, clywodd Adam Price a Sioned Williams fod rhenti a chyfraddau busnes uchel, tan-fuddsoddiad yn y dref a phryderon ynghylch ymddygiad gwrth-gymdeithasol a digwyddiadau troseddol diweddar yn effeithio ar nifer o fusnesau yng Nghastell-nedd - lle mae llawer o siopau'n wag ar hyn o bryd.

Dywedodd Adam Price: “Mae Castell-nedd yn dref wych, mae ganddi botensial enfawr. Os caiff ei hethol, bydd Sioned Williams yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r ardal hon a byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud cefnogi busnesau lleol ac adfywio canol trefi ledled Cymru yn brif flaenoriaeth. Rhai o'r mesurau y byddai Plaid Cymru yn eu cymryd fyddai penodi rheolwyr i gydlynu buddsoddiad, rhaglen gynnal a chadw a hyrwyddo canol tref a gwneud canol trefi sydd â chyfraddau uchel o siopau gwasg yn rhydd o gyfraddau. ”

Dywedodd Sioned Williams: “Rwy’n credu bod pobl Castell-nedd a’r cymunedau cyfagos yn chwilio am ffocws mwy lleol gan eu cynrychiolwyr gwleidyddol ac mae canol tref Castell-nedd a llawer o’n strydoedd mawr lleol yn galw'n daer am well gefnogaeth. Rhaid i ganol ein trefi fod yn lleoedd prysur, bywiog, cymdeithasol a diogel. Ar yr un pryd, os caf f'ethol, byddaf yn gweithio'n galed i fynd i'r afael ag achosion o dor-cyfriath ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol, wrth sicrhau bod pobl bregus a phobl ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Bydd Plaid Cymru yn buddsoddi mewn dyfodol gwell i ganol Castell-nedd ac yn helpu ein tref a'n strydoedd mawr i adfywio wedi blynyddoedd o esgeulustod a dirywiad, ac effaith Covid. ”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.