Achub ein Cartref Gofal

 

Mae aelodau Grŵp Gweithredu yng Nghwm Nedd yn ail-lansio'r ymgyrch i achub eu cartref gofal rhag cael ei gau ymhen deunaw mis.

 

Gwnaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a oedd wedi gwrando ar leisiau'r rhai a oedd yn ymladd i gadw cartref gofal Trem-y-Glyn yng Nglyn-nedd ryw ddeng mlynedd yn ôl, dro pedol yn 2016 - gan honni nad oedd cadw'r cartref ar agor bellach yn bosib.  Yn dilyn mân adnewyddiad, gorchmynnwyd bod y cartref yn cau yn 2022.

 

Dadleuodd Cynghorydd Plaid Cymru Glyn-nedd, Dr. Del Morgan, sy'n Gynullydd Grŵp Gweithredu Trem-y-Glyn, ei fod bob amser yn argyhoeddedig y byddai cynnydd, nid gostyngiad, yn yr angen am gartrefi gofal o'r fath dros ddegawdau’r dyfodol, ac mae wedi croesawu’r arwyddion diweddar gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot eu bod o’r diwedd yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r ddadl hon.

 

“Rydw i ychydig yn fwy optimistaidd nawr bod y Cyngor yn dechrau ailystyried yr holl fater hwn,” meddai, “er fy mod yn credu ein bod yn dechrau rhedeg allan o amser, a bod yr amser bellach yn iawn i’r Grŵp Gweithredu ail-lansio ei ymgyrch i achub y cartref a cheisio cael ymrwymiad i gadw ein cartref gofal ar agor am gyfnod amhenodol i’r dyfodol. ”

 

“Gyda phobl yn byw yn hirach a gyda’r genhedlaeth ‘baby boom’ yn dod drwodd, sut y gallem ystyried y bydd yn bosibl gweld gostyngiad yn nifer y bobl a fydd angen cartrefi gofal? Mae Trem-y-Glyn yn gyfleuster mor gartrefol, gyda staff a thrigolion ymroddedig sy'n hapus i aros yn agos at eu cymunedau, ” ychwanegodd y Cynghorydd Morgan.

 

Mae Bwrdd Cabinet Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cyngor Sir yn monitro'r sefyllfa ar hyn o bryd, ac mae aelodau'r Grŵp Gweithredu yn gobeithio y bydd y Bwrdd unwaith eto'n gwrando arnynt ac yn adfer y cartref, naill ai trwy roi estyniad tair blynedd o leiaf ar y dyddiad cau yn y tymor byr, neu drwy ganiatáu estyniad parhaol i fodolaeth y cartref ar unwaith.

 

“Rwy’n erfyn ar y Cyngor i godi’r bygythiad posib i’r cartref hwn ar unwaith,” meddai’r Cynghorydd Morgan. “O leiaf gadewch inni gael moratoriwm tair blynedd ar unrhyw gynlluniau i gau fel y gallwn weithio ar ymchwil bellach i ddangos bod yna angen am y cartref hwn fel cyfleuster parhaol.” Ychwanegodd, “Rydw i mor ddiolchgar am waith a chefnogaeth pawb sydd wedi bod yn weithgar dros achos Trem-y-Glyn, gan gynnwys y Grŵp Gweithredu, staff y Cartref a’r preswylwyr a’u teuluoedd.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.