Plaid Cymru yn ymuno â chlymblaid flaengar yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae clymblaid newydd yn mynd i arwain Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar ôl i gynrychiolwyr o’r grwpiau Annibynnol, Plaid Cymru ac Annibynwyr Dyffryn ddod i gytundeb i rannu grym. Bydd aelodau Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a’r Blaid Werdd yn cefnogi’r glymblaid drwy gyfrwng cytundeb hyder a chyflenwi.

Yr un a enwebwyd fel Arweinydd y Cyngor yw’r Cynghorydd Steve Hunt, a’r Dirprwy Arweinydd enwebedig yw’r Cynghorydd Alun Llewelyn.

Bydd y glymblaid a’r grwpiau sy’n ei chefnogi’n dal 33 sedd o gyfanswm o 60.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl dros bythefnos o drafod rhwng y pleidiau ac mae’n dod â 26 mlynedd o weinyddiaeth gan y blaid Lafur i ben yn y fwrdeistref sirol, y tro cyntaf iddi fod felly ers ffurfio’r cyngor yn Ad-drefniant Llywodraeth Leol yn 1996.

Meddai Alun Llewelyn, Arweinydd grŵp Plaid Cymru:

 “Bydd hon yn weinyddiaeth newydd gyda blaenoriaethau newydd ar gyfer Castell-nedd Port Talbot. Rydym wedi cael sawl sgwrs gynhyrchiol dros y bythefnos ddiwethaf ac rydyn ni’n rhagweld fod llawer o dir cyffredin rhyngon ni ar sawl pwnc. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd i adeiladu ymddiriedaeth a hyder yn ein cyngor drwy ymgysylltu mewn clymblaid llawn parch sy’n rhoi anghenion ein cymunedau gyntaf.”

Sioned Williams, Aelod o’r Senedd Gorllewin De Cymru:

“Mae'r weinyddiaeth newydd hon yn rhoi cyfle i sicrhau Cyngor mwy cydweithredol sy'n gweithio mewn partneriaeth go iawn â phleidiau eraill, grwpiau cymunedol a'r cyhoedd. Rwy’n hyderus y bydd grŵp Plaid Cymru o gynghorwyr yn achub ar y cyfle hwn i weithredu ar flaenoriaethau ein cymunedau a chyflawni’r newid y mae dirfawr angen inni ei weld.

Llongyfarchiadau a diolch i’r Cynghorydd Alun Llewelyn a gweddill grŵp Plaid Cymru am yr holl waith rydych wedi’i wneud i sicrhau'r canlyniad hanesyddol hwn.”

Gydag ymrwymiad i weithio gyda phobl i gryfhau cymunedau, economi ac amgylchedd y fwrdeistref sirol, mae rhaglen weinyddol y glymblaid yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol gyda ffocws cryf ar bartneriaeth a chydweithio. Ar ôl cyfrannu’n sylweddol at ffurfio ‘Adfer, Ailosod, Adnewyddu’, cynllun corfforaethol y cyngor, bwriad y weinyddiaeth newydd yw adeiladu ar hwn a’i wella.

Ymysg y blaenoriaethau, bydd:

  • gwella amgylchedd ffisegol y fwrdeistref sirol;
  • gwella deilliannau addysg i bawb, gan gynnwys gweithio gyda swyddogion a chymunedau i ail-ystyried y penderfyniad a wnaed i greu ‘uwch-ysgol’ enfawr yn ardal Cwm Tawe;
  • archwilio dewisiadau i gynhyrchu refeniw, hybu buddsoddiad a helpu i liniaru’r argyfwng costau byw yn lleol
  • datblygu a darparu strategaeth i alluogi’r cymoedd a’r pentrefi i gyflawni’u potensial yn llawn, sy’n edrych ar fuddsoddiad, isadeiledd a chysylltedd;
  • dod â bywyd newydd i ganol trefi; a
  • gwella economi Castell-nedd Port Talbot.

Mae’r rhaglen hefyd yn amlinellu’r bwriad i ddysgu oddi wrth y pandemig er mwyn gwella iechyd a gofal cymdeithasol drwy weithio’n effeithiol ar draws pob sector i leihau ynysrwydd a gwneud gwasanaethau a chefnogaeth yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr a theuluoedd. Bydd hyn yn cael ei baru â ffocws ar ddarparu ystod o dai ar draws y fwrdeistref sirol, gan gynnwys tai fforddiadwy, gyda nod o sicrhau fod pobl leol yn elwa o adeiladu tai a chadwyni cyflenwi.

Bydd materion amgylcheddol, hamdden, diwylliant a threftadaeth yn allweddol hefyd, gyda chynlluniau i ddatblygu strategaeth amgylcheddol sy’n cynnwys cymunedau a grwpiau gwirfoddol, strategaeth ddiwylliannol i hybu manteision economaidd, hamdden, cymdeithasol a lles, ac ymrwymiad cadarn i dyfu ac adeiladu ar asedau presennol Celtic Leisure.

Penodir gweinyddiaeth newydd y cyngor yn ffurfiol mewn cyfarfod o’r Cyngor tua chanol mis Mehefin.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.