Torri Treth y Cyngor

Cyllideb Castell-nedd Port Talbot 2022


Mae'r gwrthbleidiau ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn galw ar y cyngor i ystyried toriad yn Nhreth y Cyngor er mwyn helpu pobl y sir gyda'r argyfwng costau byw.

Mae gan Gastell-nedd Port Talbot y drydedd dreth gyngor uchaf yng Nghymru.

Mae'r cyngor yn ystyried rhewi Treth y Cyngor eleni ond mae grwp Cynghorwyr Plaid Cymru a'r Democratiaid Annibynnol am iddynt fynd ymhellach.

Dywedodd arweinydd Grwp Plaid Cymru, y Cynghorydd Alun Llewelyn:

“Cynigiodd Plaid Cymru y dylid rhewi’r dreth gyngor y llynedd pan oedd y sir yn dioddef o effeithiau'r pandemig ond nid oedd y grŵp Llafur yn fodlon cytuno a chodwyd y dreth eto.

"Bu gennym un o’r trethi cyngor uchaf yng Nghymru bob blwyddyn ers dros chwarter canrif, ac ar yr un pryd mae gwasanaethau wedi cael eu torri. Mae angen tegwch i’n holl gymunedau.

"Rydym wedi dadansoddi ffigurau’r gyllideb. Mae gan Gastell-nedd Port Talbot gronfeydd wrth gefn o £20 miliwn a bydd yna hefyd danwariant o dros £6 miliwn eleni, felly mae’n bosib rhoi rhywbeth yn ôl i’r bobl. Mae’n bosib ystyried gostwng y dreth gyngor a buddsoddi yn ein cymunedau a’n gwasanaethau.”

Dywedodd y Cynghorydd Scott Jones, Arweinydd y Grŵp Democrataidd Annibynnol:

“Mae’r Grŵp Annibynnol wedi cynnal cyfarfodydd gyda swyddogion ac yn teimlo y dylai’r cyngor fod yn gwneud mwy i helpu trigolion ar draws ein Bwrdeistref Sirol ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu’r setliad gorau a dderbyniwyd ers blynyddoedd lawer ac o’i ychwanegu at daliadau ychwanegol oherwydd Covid-19, mae hyn wedi arwain at danwariant posibl o £6M ac wedi cadw’r cronfeydd wrth gefn ar lefel debyg i’r hyn yr oeddent cyn y Pandemig yn gynnar yn 2020.

"Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod y gwaethaf o bell ffordd ers cenedlaethau lawer i drigolion ac rydym ni’r Grŵp Democrataidd Annibynnol yn credu ar hyn o bryd y dylem wneud popeth o fewn ein gallu i geisio gostwng taliadau Treth y Cyngor ac atal blynyddoedd o godiadau a godir arnynt gan y weinyddiaeth(au) Llafur. 

"Bydd unrhyw gynigion a gyflwynir yn gwbl gyllidadwy, yn gadarn ac felly rydym yn hyderus na fyddai unrhyw ostyngiad yn cael effaith andwyol ar unrhyw un o’r gwasanaethau rheng flaen a ddarperir gan CBSCNPT ac yn dal i adael lefel y cronfeydd wrth gefn yn uwch na’r ffigwr o 4% a awgrymir sydd wedi’i egluro i’r aelodau.”

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Peters:

“Mae angen i dalwyr y dreth gyngor yn yr ardal hon gael tegwch. Maen nhw wedi cael eu llorio ers blynyddoedd gyda'r tanwariant enfawr hwn.

"Rwy’n mawr obeithio y bydd modd lleihau’r dreth gyngor a byddaf yn galw am ystyried hyn yng nghyfarfod y cyngor.”

Bydd cynghorwyr y gwrthbleidiau yn trafod y ffigurau ymhellach yn y Pwyllgor Craffu ac yn dod â chynigion i gyfarfod cyllideb y Cyngor.

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.