Ymladd Dros Flaengwrach

Ym mis Mawrth eleni, ar ddechrau’r cyfnod clo, cafodd trigolion ward Blaengwrach y newyddion  ofnadwy bod y bont yn Chain Road wedi cael ei difrodi mor ddifrifol gan Storm Dennis nes bod yn rhaid ei chau ar unwaith.

 

Mae'r bont yn gyswllt hanfodol i gerddwyr rhwng dwy gymuned Blaengwrach a'r Lamb. Mynnodd Llywodraeth Cymru, ar adeg cwblhau'r A465, fod gan y ward fynediad i gerddwyr yn hytrach na mynediad i gerbydau.

 

Bu llawer o drafod am y mater pwysig hwn rhwng Cynghorydd Sir Plaid Cymru dros Flaengwrach, Carolyn Edwards, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ystod y cyfnod clo ac ar ôl tipyn o frwydro cytunodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot i osod pont dros dro, ac i gael pont newydd sbon yn ei lle yn y dyfodol agos.

 

“Er nad tanffordd yw’r ateb gorau ar gyfer mynediad, daeth yn amlwg ar ôl i’r bont gau pa mor hanfodol yw’r cysylltiad hwnnw i’r ddwy gymuned ac rwy’n ddiolchgar iawn, er gwaethaf yr anawsterau a achoswyd gan COVID 19, fod y mater wedi’i ddatrys yn foddhaol.” - Y Cynghorydd Carolyn Edwards, Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Plaid Cymru dros Flaengwrach.

 

Gwelliannau i'r Parc

Dywed Cyngh. Carolyn Edwards mai’r hyn y mae hi fwyaf balch o gyflawni y llynedd yw prosiect llwyddiannus Parc y Welfare, Cwmgwrach.

 

“Cyflawnwyd y prosiect trwy waith caled Cyngor Cymuned Blaengwrach, yr wyf yn gadeirydd arno, y clerc a chynghorwyr. Ni ellid bod wedi cyflawni'r prosiect heb arian gan Fferm Wynt Pen y Cymoedd, Cronfa Ymddiriedolaeth Selar a Chastell-nedd Port Talbot. Mae'n gyflawniad anhygoel ac rydyn ni'n diolch i bawb sy'n ymwneud â'r prosiect ac mae’r cyngor dan arweiniad Plaid Cymru nawr yn edrych ar ddatblygiadau eraill yn y parc yn y dyfodol. ”

 

Gardd flodau gwyllt

Fel Cadeirydd Cyngor Cymuned Blaengwrach, bu’r Cynghorydd Carolyn Edwards yn helpu plant ysgol Blaengwrach, aelodau canolfan hyfforddi Glyn-nedd a gwirfoddolwyr wrth greu gardd flodau wyllt wrth fynedfa'r pentref.

 

Dywedodd y Cynghorydd Edwards: “Y gobaith yw y bydd yr ardd hon yn gwella’r fynedfa i’r pentref ac yn annog ein pobl ifanc i ymddiddori mewn garddio a sicrhau bod blodau gwyllt a phryfed ac ati yn ffynnu.’


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.