Gweithredu Cymunedol Covid

Rwyf wedi cynrychioli fy mhentref, Alltwen yng Nghwm Tawe, fel Cynghorydd Cymuned ers dros dair blynedd bellach ac ar hyn o bryd rwy'n Gadeirydd Cyngor Cymuned Cilybebyll. Yn wahanol i swyddi etholedig eraill, mae bod yn gynghorydd cymunedol yn rôl wirfoddol ac mae'n un mor werth chweil: Dyma'r haen agosaf o ddemocratiaeth at y  bobl ac mae'n ffordd wych o ddod i adnabod a deall anghenion a chymeriad eich cymdogaeth leol.

 

 

Wrth i argyfwng Coronafeirws ddechrau taro Cymru a'r cyfnod dan glo anochel yn nesau, synhwyrais fod llawer o'm cymdogion yn dechrau pryderu ynghylch sut y byddent yn ymdopi â thasgau hanfodol bob dydd fel siopa a chasglu meddyginiaeth. Roeddwn wedi clywed sut roedd ffrindiau yng Nghaerdydd wedi cychwyn rhwydwaith gwirfoddolwyr yn eu hardal a phenderfynais, gan nad oedd yr awdurdod lleol wedi sefydlu unrhyw gynllun bryd hynny, y byddwn yn gwneud yr un peth yn fy ward yn rhinwedd fy rôl fel cynghorydd cymuned.

 

 

Creais grŵp Facebook o’r enw ‘Grŵp Gwirfoddolwyr Covid-19 Cymuned yr Alltwen' a lledaenu’r gair trwy grwpiau a thudalennau Facebook lleol, gan ofyn i bobl wirfoddoli. Roedd yr ymateb yn anhygoel. O fewn ychydig ddyddiau roedd gen i dros 20 o wirfoddolwyr ar y llyfrau. Fe wnaethon ni argraffu a dosbarthu taflenni gyda gwybodaeth y grŵp arnyn nhw i bob tŷ yn y pentref - dros 1000 o gartrefi - gan nad yw llawer o drigolion oedrannus Alltwen ar-lein na'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.

 

Erbyn diwedd wythnos gyntaf y cyfnod dan glo, roeddwn wedi derbyn llawer mwy o gynigion o gymorth. Sefydlais system o ddefnyddio Whatsapp a grŵp e-bost i ddosbarthu'r ceisiadau niferus am help a wnaeth llifo i mewn ataf o ddiwedd mis Mawrth. Yn ogystal â helpu pobl gyda siopa a chasglu presgripsiynau, bu’r gwirfoddolwyr yn mynd â chŵn pobl am dro ac hefyd yn postio llythyrau. Buom yn helpu grwpiau iechyd meddwl lleol sy'n poeni am les rhai o'u haelodau, trwy gadw mewn cysylltiad rheolaidd dros y ffôn gyda'r rhai oedd yn teimlo'n bryderus ac yn ynysig. Bu ein grŵp hefyd yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaeth parseli bwyd yr Awdurdod Lleol ar gyfer y rhai mwyaf bregus, gan eu helpu i ymateb i geisiadau am gymorth nad oedd yn gymwys o dan eu cynllun.

 

Er fy mod i wedi bod yn weithgar yn fy nghymuned ers amser maith, mae trefnu cymorth ymarferol a chydlynu grŵp o wirfoddolwyr gwych wedi bod yn brofiad mor arbennig. Mae'r negeseuon o ddiolch twymgalon a gawsom gan y rhai ryn ni wedi eu helpu wedi fy nghyfwrdd i'r byw. Mae'r grŵp gwirfoddolwyr wedi dod â'r gorau mas yn ein cymuned, ac wedi taflu goleuni ar bwysigrwydd gweithredu cymunedol mewn cymdeithas sydd wedi dioddef yn fawr yn y cyfnod o lymder diweddar a thoriadau i wasanaethau. Rwyf wedi cael cais gan yr awdurdodau i sicrhau bod grŵp gwirfoddolwyr yr Alltwen yn dal i fod yn weithredol, wrth i ni weld y don nesaf o’r haint yn nesau, ac efallai argyfwng arall yn ein taro. A hyd yn oed ar ôl i'r argyfwng presennol fynd heibio, gobeithio, gallwn barhau i helpu gyda phrosiectau cymunedol eraill fel gwella'r amgylchedd.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.